Cymunedau Gwyllt
Mwy, gwell, a mwy unedig
Mae angen i ni greu rhwydwaith cadarn, rhyng-gysylltiedig o fannau gwyllt a chynefinoedd iach sy’n darparu gofod i fyd natur ffynnu ac adfer gwytnwch ein hecosystemau ar raddfa tirwedd, a all wedyn ddarparu pridd iach ac aer a dŵr glân. Gall tir o unrhyw faint gyfrannu at y Rhwydwaith Adfer Natur yma – gwarchodfeydd natur, mannau cymunedol, gerddi, ffermydd, parciau, mynwentydd ac ysgolion – mae’n gweithio ar unrhyw raddfa.
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl ar draws y sir sydd â'r angerdd a'r egni i ysgogi newid cadarnhaol i fyd natur yn eu hardal leol, ysgol, busnes, tir neu weithle. Mae arnom ni angen pobl i helpu i arwain a threfnu newid ac ymgyrchwyr real i'n helpu ni i gyflawni ar lawr gwlad a chael eraill i ymuno â'n mudiad gwyllt ni.
Efallai eich bod chi’n rhan o grŵp cymunedol sy'n bodoli eisoes y mae ei nodau a'i gymhellion yn cyd-fynd yn dda â nodau Tîm Gwyllt, neu efallai eich bod chi’n bwriadu sefydlu un eich hun. Fe all Tîm Gwyllt eich helpu chi drwy ddarparu hyfforddiant ac adnoddau penodol neu eich cysylltu â grwpiau a phobl eraill debyg, i chi rannu eich syniadau gyda nhw.
Dechreuwch weithredu!
Deuparth gwaith yw ei ddechrau!
Layers
Dim grwpiau cymunedol yn eich ardal?
Mae sefydlu grŵp cymunedol ar eich pen eich hun yn cymryd llawer o amser ac egni, pethau nad oes gennych chi ar hyn o bryd efallai. Dyna pam mae Tîm Gwyllt yma i'ch helpu chi! Byddwn yn eich cysylltu ag eraill yn eich ardal sydd â diddordeb hefyd mewn dechrau grŵp a byddwn yn rhoi hyfforddiant a digon o adnoddau i chi ar gyfer sefydlu grŵp eich hun. Er nad oes unrhyw grwpiau yn eich ardal leol chi efallai, defnyddiwch y map i gael ysbrydoliaeth a dysgu o lwyddiant eraill ledled Gwent.
Adnoddau Tîm Gwyllt
Porwch ein llyfrgell o adnoddau a fideos hyfforddi sydd wedi'u casglu’n arbennig ar gyfer Tîm Gwyllt, popeth o reoli'ch gwrych i ddechrau ymgyrch gymunedol.
Os oes arnoch angen cymorth pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni, fe wnawn ni ein gorau i'ch arwain chi i’r cyfeiriad cywir i'ch helpu ar eich siwrnai i gefnogi byd natur.
Dechreuwch weithredu dros fyd natur heddiw!