Adnoddau Gwyllt
Dechreuwch weithredu heddiw!
Rydyn ni eisiau canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi a grymuso cymunedau ac unigolion i gymryd camau gweithredu dros fyd natur yn eu hardal leol. Rydyn ni eisiau helpu i greu cymunedau gwydn yng Ngwent a gobeithio y bydd yr adnoddau sy’n cael eu darparu yn gallu cyflawni hynny.
Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, rydyn ni’n cynnig pob math o ffyrdd y gallwch chi ddysgu a chymryd rhan mewn camau gweithredu i ddiogelu bywyd gwyllt lleol: gan gynnwys teithiau cerdded, sgyrsiau, hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio a gwirfoddoli yn seiliedig ar sgyrsiau rydyn ni wedi’u cael gyda gwahanol gymunedau. Os ydych chi’n newydd i fyd natur neu'n arbenigwr bywyd gwyllt, gobeithio y bydd yr adnoddau yma’n gallu eich helpu chi. Ond os oes rhywbeth arall rydych chi’n teimlo y bydden ni’n gallu ei ddarparu, cofiwch gysylltu â ni.
Make a Bat Roost Box
Make a Bird Nest Box
How to Make a Bat Roost
How to Make a Bird Nest Box
Rhannu a dysgu oddi wrth eraill!
Os ydych chi eisoes yn gweithredu dros fyd natur neu eisiau dysgu beth mae eraill yng Ngwent yn ei wneud i warchod bywyd gwyllt, beth am ymuno â'n grŵp Facebook ni, Gweithredu dros Fywyd Gwyllt Gwent. Mae'r platfform yma’n galluogi cymuned Gwent i rannu a dysgu am yr holl ffyrdd gwych rydych chi'n gweithredu i warchod bywyd gwyllt!
These resources were funded by the Resilient Communities Fund project from Natural Resources Wales