Sefyll Dros Natur Cymru
Ydych chi rhwng 9 a 24 oed ac yn hoffi byd natur?
Hoffech chi ddysgu mwy am atebion sy'n seiliedig ar natur i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a helpu bywyd gwyllt yn eich cymuned?
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent, ynghyd â’r pum Ymddiriedolaeth Natur arall yng Nghymru, yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc o bob cefndir sydd eisiau gweithredu dros fyd natur yn eu hardal leol mewn ymgais i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Sut i gymryd rhan
Mae gan Sefyll dros Natur Cymru ddau grŵp ieuenctid yng Ngwent (edrychwch ar y map isod). Rydyn ni’n cyfarfod bob yn ail ddydd Mawrth rhwng 18:00 a 20:00.
Mae'r cyfarfodydd yn cynnwys gweithgareddau natur dan do ac yn yr awyr agored, ymgyrchoedd, sgyrsiau addysgol a meithrin sgiliau cynaliadwy.
Yn ystod gwyliau ysgol, mae’r sesiynau'n cynnwys cyrsiau diwrnod cyfan, gwersylla a theithiau maes.
Cliciwch ar un o'n blogiau ffotograffau ni isod am fwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth.
Ble rydyn ni'n gweithredu?
Mae grwpiau ieuenctid Sefyll dros Natur Cymru yn gweithio mewn dwy ardal. Y Rhyfelwyr Gwyllt yng Nghasnewydd a Y Gofalwyr Natur yn y Cymoedd. Mae croeso i chi ymuno â ni o bob rhan o Went a thu hwnt ond dyma'r rhanbarthau lle rydyn ni’n defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Ymunwch ag un o'n Grwpiau Ieuenctid
Ydych chi'n berson ifanc sydd ag angerdd dros fyd natur ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth?
Cysylltwch â Robert Magee rmagee@gwentwildlife.org os ydych chi’n byw yn y Cymoedd
neu Petra Mitchard pmitchard@gwentwildlife.org os ydych chi’n byw yng Nghasnewydd
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect yng Ngwent
cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr yma.
Fel dewis arall, llenwch y ffurflen isod:
Addewid Dim Plaladdwyr - Ymgyrch Diweddaraf
Mae aelodau ein grŵp ieuenctid Sefyll Dros Natur Cymru wedi creu fideos i dynnu sylw at yr effeithiau y gall triniaeth chwain cael ar yr amgylchedd.
Fe allwn ni i gyd wneud gwahaniaeth
Gyda’n gilydd gallwn frwydro yn erbyn effeithiau cynhesu byd-eang drwy ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur fel creu dolydd blodau gwyllt, plannu coed, sefydlu toeau gwyrdd a gerddi dŵr glaw a gwneud lle i fyd natur.
Cyllid
Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth am brosiectau Sefyll dros Natur Cymru sy'n cael eu cynnal mewn rhannau eraill o Gymru ar gael drwy edrych ar dudalen Ymddiriedolaethau Natur Cymru yma