Golygfa fyw o Gors Magwyr
(mae’r lluniau llonydd yn cael eu newid bob 5 munud)


Google Maps / Gavin Williams - One Click Nature
Google Street View
Cyn ymweld, fe allwch chi archwilio ein gwarchodfa ni yng Nghors Magwyr ar Google Street View – gan fapio’r llwybrau rydych chi eisiau eu dilyn ac asesu’r mynediad.

Canllaw Digidol Cors Magwyr
Os byddwch chi’n ymweld â’r warchodfa, mae ap newydd sbon yn seiliedig ar borwr gwe, gan gynnwys llwybr digidol, ar gael yng Nghors Magwyr. Meddyliwch amdano fel taflen ryngweithiol a all eich arwain, eich ysbrydoli, eich herio a’ch difyrru chi yn ystod eich ymweliad.

OneClickNature
Archwilio Gwarchodfeydd mewn Realiti Rhithwir
Rydym yn creu Sfferau Ffoto Realiti Rhithwir o'n gwarchodfa yng Nghors Magwyr. Mae'r delweddau hyn o ansawdd uchel yn rhoi naws ac awyrgylch y warchodfa i chi, o unrhyw le yn y byd!

Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur sy’n cael ei gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i chyllido gan Lywodraeth Cymru.