Hyrwyddwyr Gwyllt
Arweinwyr a Hyrwyddwyr Gwyllt
Ni all ein cynllun ni i greu Gwent wyllt ddigwydd heb gefnogaeth ac ymgyrchu ar lawr gwlad. Er mwyn i’r momentwm adeiladu, mae arnom ni angen pobl i gymryd yr awenau a hyrwyddo byd natur – boed hynny’n gweithio’n uniongyrchol gyda byd natur, yn ysbrydoli pobl eraill i weithredu, neu’n gofyn i lywodraethau lleol a chenedlaethol weithredu. Mae gan bob un ohonom ni rôl i'w chwarae. Mae ein Hyrwyddwyr a’n Harweinwyr Gwyllt yn rhan hanfodol o’n helpu ni i gyflawni adferiad byd natur drwy adfer cynefinoedd, ysbrydoli cymunedau a dod â bywyd gwyllt yn ôl i’w hardal leol.
Mae Arweinwyr Gwyllt yn bobl sydd â syniad gwych ar gyfer - neu sydd eisoes wedi dechrau - eu prosiectau gwyllt eu hunain ac sy'n barod i helpu i arwain newid, cael eraill i ymuno a bod yn rhan o fudiad gwyllt. Gallai fod yn eich ysgol, busnes, eglwys, gweithle neu gymuned. Efallai eich bod chi eisiau tyfu perllan gymunedol, dechrau grŵp ffrindiau, mabwysiadu ardal o afon neu wneud eich pentref yn rhydd o blastig. Beth bynnag yw eich syniad gwyllt, fe fyddwn ni’n ymuno â chi ar eich siwrnai, gan eich cefnogi gyda hyfforddiant ac adnoddau, eich cysylltu chi ag arweinwyr eraill, a dathlu a hyrwyddo eich gwaith.
Mae llawer o ffyrdd i chi gymryd rhan ar hyn o bryd...
Felly, ydych chi'n barod i helpu i greu Gwent wyllt yn eich cymuned?
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddod o hyd i adnoddau sydd wedi'u casglu’n arbennig ar gyfer y Tîm Gwyllt. Mae adnoddau ar gael am sut i greu grŵp gyda'ch ffrindiau a'ch cymdogion, sut i gael cyllid ar gyfer eich grŵp, a sut i ofyn i'ch cynghorau lleol eich cefnogi chi, ymhlith llawer o bethau eraill.