Nodau Aidan
Rydw i’n credu bod cyfle ym mhob cymuned i helpu’r amgylchedd a byd natur yn ei gyfanrwydd...
...Meddai Aidan, aelod o Sefyll Dros Natur Cymru a Rhyfelwr Bywyd Gwyllt
Helo, Aidan ydw i ac fe wnes i ymuno â phrosiect SDNC ym mis Mai 2023 a gallaf ddweud yn falch ei fod yn un o'r penderfyniadau gorau rydw i wedi'i wneud o ran fy nyhead i helpu'r amgylchedd mewn unrhyw ffordd y gallaf yn fy mywyd personol. Roeddwn i wedi bod yn chwilio am grŵp natur ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy nghyfeirio at gyfle anhygoel ym Magwyr. Fe wnes i ymuno hefyd oherwydd mai rôl mewn cadwraeth fyddai fy ngyrfa ddymunol i ac roeddwn i hefyd eisiau dod o hyd i ffordd i droi fy mhryder eco eithaf mawr yn gamau gweithredu cadarnhaol a newid. Yn bersonol, fe fyddwn i'n dweud mai dyna un o'r pethau hyfryd am fod yn aelod o grŵp SDNC oherwydd mae'n fy atgoffa i o'r gobaith sy'n dal i fodoli am achub yr amgylchedd, er gwaetha’r holl newyddion hinsawdd sy'n achosi cryn bryder. Yn y grŵp rydw i wedi dysgu llawer am wahanol rywogaethau, a gwahanol ddulliau cadwraeth a monitro, sydd wedi golygu fy mod i wedi gallu helpu YNG gydag arolygon fel diwrnod hyfforddi arolygu Llygod yr Ŷd ym mis Chwefror, ac fe wnes i fwynhau yn fawr. Yn ffodus, fe gadwodd y glaw draw nes i ni orffen ein harolygu ac fe wnes i lwyddo i restru llawer o’r llygod welsom ni fel grŵp gan ddefnyddio’r ap Mammal Mappers gan y Gymdeithas Mamaliaid ac rydw i wedi cyflwyno hwn. Yn bersonol, fe ddois i o hyd i safle bwydo llygod pengrwn y dŵr, nyth llygod pengrwn y maes ac un o’r 5 o nythod llygod yr ŷd ddaethon ni o hyd iddyn nhw, ac rydw i’n hynod falch o hynny gan fy mod i’n hapus iawn bod llygod yr ŷd yn parhau i fod yn bresennol yng Nghors Magwyr ar ôl y cofnod diwethaf oedd gan YNG o lygod yr ŷd yn y warchodfa o 2014. Rydw i'n gobeithio gwirfoddoli a chymryd rhan mewn llawer mwy o weithgareddau fel yr un yma yn y dyfodol i helpu i feithrin fy sgiliau ymarferol ac, yn fwy na dim, helpu YNG gyda’i gwaith rhyfeddol o glodwiw i warchod yr holl rywogaethau gwerthfawr y mae’n bleser cael eu cwmni nhw ar Wastadeddau Gwent.
Wythnos ABChI Ysgolion - Deiseb ‘Achub Gwastadeddau Gwent Eto’
Un o’r ffyrdd y mae bod yn rhan o brosiect SDNC wedi fy ysbrydoli i yw drwy wneud mwy o waith yn fy ysgol i, ochr yn ochr â’n hathro mwyaf angerddol am yr amgylchedd, i helpu i gefnogi’r amgylchedd a chynnal ein statws Eco Ysgol. Yr hyn roddodd y cyfle i mi helpu i wneud hyn yw am fy mod i wedi cael fy ethol, yn garedig iawn, i’r Weinyddiaeth Gymunedol fel yr Arweinydd Amgylcheddol yn ôl ym mis Hydref a hefyd gan fy mod i wedi cael fy ysbrydoli i gefnogi’r ddeiseb yma ar ôl mynychu a siarad yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol YNG ym Mrynbuga ym mis Medi 2023. Fe wnes i awgrymu ein bod ni’n cynnal ymgyrch i gefnogi’r ddeiseb o fewn cymuned ein hysgol. I ddechrau, roedd hyn yn golygu creu cyflwyniad i'w ddangos yn sesiynau ABChI yr wythnos oedd yn dechrau ar Ionawr 14eg, mewn sesiynau cofrestru dosbarth yn y prynhawn, ar draws yr ysgol gyfan. Hefyd fe ofynnodd fy athro i mi greu erthygl ar Wastadeddau Gwent i gefnogi’r ddeiseb i fynd i rifyn yr Hydref o gylchgrawn Insight yr ysgol. Rydw i’n siŵr bod hyn wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ymhlith rhieni a phawb yng nghymuned ehangach yr ysgol. Fe wnes i hefyd drefnu i aelodau o staff YNG, Petra a Beccy, ddod i mewn ar ddydd Mercher yr 16eg o Ionawr i gwrdd â Blwyddyn 8 a siarad am YNG, ei gwaith i warchod rhywogaethau yn ogystal ag Ymgyrch Plaladdwyr SDNC, yn enwedig triniaethau anifeiliaid anwes fel Spot-On. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Petra, Beccy ac YNG am gynnig fy nghefnogi i gyda hyn. Ar y cyfan, fe fyddwn i’n dweud bod yr wythnos wedi bod yn llwyddiant, gan fy mod i wedi clywed gan bobl bod llawer o ddosbarthiadau wedi mwynhau dysgu am Wastadeddau Gwent. Yn ystod yr wythnos yma, fe fyddwn i’n amcangyfrif fy mod i wedi helpu YNG i gael 177 o lofnodion ar gyfer deiseb y Senedd i “Achub Gwastadeddau Gwent” a 51 llofnod ar gyfer deiseb Gwefan YNG, felly roedd hyn yn newyddion gwych, gan mai fy nharged i oedd o leiaf 100 o lofnodion.
Ymdrechion yn y Dyfodol mewn Gwaith Amgylcheddol yn fy Ysgol
Ers hynny, rydw i wedi bod yn gweithio ar fy mhrosiect arfaethedig nesaf - creu grŵp casglu sbwriel yn yr ysgol. Fe gefais i fy ysbrydoli i weithio ar hyn fel un o fy mhrosiectau ym Mlwyddyn 12 oherwydd mae sbwriel bob amser wedi bod yn broblem amlwg yn fy ysgol i, ar iard yr ysgol a thir yr ysgol ers i mi fod ym Mlwyddyn 7 ac rydw i wedi teimlo’n awyddus i helpu i geisio datrys y broblem yma cyn i mi adael ym Mlwyddyn 13 a gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli disgyblion angerddol eraill fel fi yn y blynyddoedd iau i ddal ati gyda’r gwaith da.
Ym mis Hydref, fe wnes i gais i fy ysgol gymryd rhan ym mhrosiect Parthau Dim Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus ac roedd fy nghais yn llwyddiannus! Ym mis Rhagfyr, cefais wybod gan Aimee o Cadwch Gymru’n Daclus ei bod wedi llwyddo i ddod o hyd i gyllid i ni gael pecyn casglu sbwriel ar gyfer ein hysgol: fe wnaeth y cynnydd yma argraff fawr arna’ i. Fodd bynnag, rydyn ni’n dal i aros yn eiddgar am y cit, yn barod ar gyfer Tymor yr Haf gobeithio, er mwyn i ni allu cynnal gweithdy a’n sesiwn casglu sbwriel cyntaf. Byddaf yn siŵr o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Petra a Beccy am hyn unwaith y bydd gen i ragor o newyddion, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae pethau’n dod yn eu blaen, cysylltwch â nhw.
Rydw i hefyd wedi ymuno â grŵp o’r enw Cadw Cas-gwent yn Daclus ac rydw i wedi dechrau gwirfoddoli gyda nhw i helpu i gasglu sbwriel a glanhau ardaloedd o amgylch Cas-gwent. Rydw i’n teimlo fy mod i wedi profi’r manteision o droi’r holl bethau negyddol am sbwriel yn fy nghymuned leol i’n gamau gweithredu cadarnhaol, felly rydw i’n falch iawn o’r hyn mae ein grŵp ni a minnau wedi gallu ei gyflawni hyd yma.
Y prosiect arall rydw i’n dal i weithio arno ydi sefydlu clwb amser cinio ‘Eco Ryfelwyr’ yn fy ysgol i, mewn cydweithrediad â Petra a Beccy o Ymddiriedolaeth Natur Gwent, a grŵp bach o unigolion angerddol o Flynyddoedd 7 ac 8. Y cynllun yw eu helpu nhw i ddysgu mwy am fyd natur, sut i’w warchod a gallu cynnal prosiectau bach yn ein hysgol ni i helpu’r amgylchedd, fel plannu dôl o flodau gwyllt, a fyddai’n hyfryd i’r holl ymwelwyr a’r rhieni ei gweld bob dydd rwy’n siŵr. Hyd yn hyn, mae fy athro wedi rhoi grŵp bach o unigolion eco-garedig at ei gilydd o Flwyddyn 7, felly rydw i’n ddiolchgar iawn iddo am ei waith caled a’i ymroddiad i fy mhrosiect.
Yn olaf, fe hoffwn i ddiolch i’r darllenwyr am roi amser i ddarllen hwn gan fy mod i’n gwerthfawrogi’n fawr y cyfle yma i rannu’r hyn rydw i wedi bod yn ei wneud y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol i helpu’r amgylchedd a, hefyd, i roi yn ôl i YNG, yr ydw i’n dragwyddol ddiolchgar iddi am y prosiect gwych yma, SDNC. Mae wir wedi dylanwadu ar fy mywyd i er gwell ac rydw i’n gobeithio defnyddio popeth rydw i wedi’i ddysgu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i helpu’r amgylchedd. Diolch yn fawr iawn.