Slefren fôr casgen
Enw gwyddonol: Rhizostoma pulmo
Dyma gewri byd y slefrod môr a’r creaduriaid anhygoel yma yw slefrod môr mwyaf y DU! Mae’r slefren yma’n gallu tyfu i faint clawr bin sbwriel – gan roi iddi ei henw cyffredin arall: slefren fôr clawr bin sbwriel!
Species information
Ystadegau
Cloch: Hyd at 90cm ar drawsPwysau: Hyd at 35 kg
Statws cadwraethol
Cyffredin
Pryd i'w gweld
Mai - HydrefYnghylch
Mae’r slefrod môr mawr yma’n heigio mewn dyfroedd arfordirol cynnes ddiwedd y gwanwyn ac maen nhw’n cael eu golchi i’r lan ar ein traethau ni yn aml yn ystod misoedd Mai neu Fehefin, wrth eu cannoedd weithiau. Eu hoff bryd bwyd yw plancton, sydd ar gael mewn dyfroedd bas. Dyma beth sy’n achosi iddyn nhw ddod i’r lan yn aml, gan eu bod yn tanamcangyfrif eu maint. Mae ganddyn nhw wyth braich ffriliog, sy’n cynnwys eu tentaclau brathu bach sy’n amghylchynu cannoedd o gegau bach! Nid yw brath slefren fôr casgen yn niweidiol i bobl fel rheol, ond os gwelwch chi un ar y traeth, mae’n well peidio â chyffwrdd ynddi, oherwydd mae’n gallu brathu ar ôl marw.Sut i'w hadnabod
Slefren fôr fawr, dryloyw gyda chloch enfawr siâp madarch ac wyth o dentaclau neu freichiau ffriliog oddi tanodd ond dim tentaclau ymylol (o amgylch y gloch), ond mae ganddi ymyl fioled o amgylch y gloch, sy’n cynnwys organau’r synhwyrau.Dosbarthiad
Cyffredin oddi ar arfordir y de a’r gorllewin ym Mhrydain yn ystod misoedd yr haf.Habitats
Roeddech chi yn gwybod?
Slefrod môr casgen yw hoff fwyd y crwban môr cefn-lledr, crwban môr mwyaf y byd.Sut y gall bobl helpu
Report your barrel jellyfish sightings to your local Wildlife Trust. The Wildlife Trusts are working with sea users, scientists, politicians and local people towards a vision of 'Living Seas', where marine wildlife thrives. You can do your bit for our marine wildlife by supporting your local Wildlife Trust.If reporting jellyfish sightings to your local Wildlife Trust please provide date, location, number (and ideally a picture) information for the accurate creation of sighting records.