
Large-spotted catshark ©Peter Verhoog
Morgi Brych
Mae'r morgi brych yn ysglyfaethwr nosol, yn hela pysgod llai yn agos at wely'r môr.
Enw gwyddonol
Scyliorhinus stellarisPryd i'w gweld
Yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.Species information
Ystadegau
Hyd at 160 cmMae'r morgi brych wedi'i restru fel rhywogaeth sy’n Agos at Fygythiad ar Restr Goch yr IUCN.
Habitats
Ynghylch
Mae’r morgi brych yn hoffi aros yn agos at wely'r môr, gan fyw mewn ardaloedd creigiog gyda llawer o algâu. Mae'n hela gyda'r nos, gan fwydo ar seffalopodau (fel ystifflog ac octopws), cramenogion (fel crancod a berdys mawr), pysgod llai a siarcod eraill hyd yn oed.Yn ystod y dydd mae’n cuddio mewn tyllau ac agennau yn y graig, gyda sawl siarc yn gorffwys yn yr un agen weithiau.
Mae’r morgi brych yn cael ei adnabod hefyd fel y forgath frych fwyaf, morgi tarw, morgi brych mwyaf, a’r morgi garw – mae hynny’n llawer o enwau ar un rhywogaeth!