Gwirfoddoli gyda Sefyll Dros Natur Cymru (S4NW)
Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i'n helpu ni yn y prosiect i ymgysylltu, ysbrydoli a grymuso rhyfelwyr newid hinsawdd ifanc ar gyfer y dyfodol.
Os hoffech chi weithio ochr yn ochr â phobl ifanc a thîm S4NW, gan helpu i ddod o hyd i atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd, rydyn ni’n chwilio am rywun a hoffai wirfoddoli i helpu i redeg grwpiau a gweithgareddau gyda'r rhai 9 i 24 oed rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae’r Prosiect wedi’i leoli yng Nghasnewydd (gan ddefnyddio Cors Magwyr fel un safle) ac awdurdodau lleol Cymoedd Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen.
Bydd y gwirfoddoli yn cynnwys digwyddiadau yn ystod y dydd yn ystod gwyliau'r ysgol a chyfarfodydd grŵp gyda'r nos. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd wrth gael hwyl a dod o hyd i atebion i broblemau newid hinsawdd.
Os ydych chi'n awyddus, ac yn gallu tanio brwdfrydedd ac ymgysylltu â phobl ifanc neu eisiau gwybod mwy am y rôl, cysylltwch â Beccy rwilliams@gwentwildlife.org Am ragor o wybodaeth neu i holi am wirfoddoli, llenwch y ffurflen we yma.
Bydd y rôl wirfoddol hon yn gofyn i chi gael archwiliad DBS ac ymgymryd â hyfforddiant diogelu. Ni ofynnir i chi wirfoddoli ar eich pen eich hun gyda phobl ifanc.
Mae lwfans tanwydd neu deithio ar gael.