Bod yn actif dros fywyd gwyllt ym mis Hydref eleni!

Bod yn actif dros fywyd gwyllt ym mis Hydref eleni!

Big Wild Walk 2024 Poster - Welsh

Addaswch eich her codi arian 30km i helpu'r Ymddiriedolaethau Natur i adfer byd natur!


Nod Taith Gerdded Wyllt Fawr / Big Wild Walk yr Ymddiriedolaethau Natur yw bod y mwyaf eto i annog pobl sydd wrth eu bodd gyda bywyd gwyllt i godi arian a helpu i adfer byd natur ledled y DU.

 

Gall y cefnogwyr greu eu her eu hunain gyda'r nod o gerdded 30 cilometr mewn unrhyw ffordd sy'n addas iddyn nhw. Bydd yr arian sy’n cael ei godi’n cefnogi adferiad bywyd gwyllt ac yn cyfrannu at genhadaeth yr Ymddiriedolaethau Natur i ddiogelu 30% o dir a môr y DU ar gyfer byd natur erbyn 2030.

 

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn arwain llu o brosiectau ledled y wlad i ddod â byd natur yn ôl. Gall cerddwyr y Daith Gerdded Wyllt Fawr yn Cumbria helpu i godi arian i brynu Coedwig Skiddaw, gall trigolion Swydd Bedford gefnogi ailwylltio yn Strawberry Hill, a gall pobl leol Gwlad yr Haf godi arian i adfer Honeygar, un o wlybdiroedd mwyaf y DU.

 

Yr hydref yma mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn annog y cyfranogwyr i enwebu ffrindiau a theulu i gymryd rhan hefyd, gydag #EnwebuDrosNatur #NominateForNature. Bydd pecyn codi arian digidol yn cefnogi pawb drwy ddarparu taflen nawdd, ffurflen tracio pellter a negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

 

Mae’r Daith Gerdded Wyllt Fawr yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 21ain Hydref a dydd Sul 3ydd Tachwedd 2024. Mae’n hanner tymor i ysgolion ac yn amser gwych i bob oedran fwynhau’r awyr agored. Cofrestrwch yn wildlifetrusts.org/bigwildwalk!

 

Meddai Rhiane Fatinikun, sylfaenydd Black Girls Hike a llysgennad ar ran yr Ymddiriedolaethau Natur: “Trochwch flaenau eich traed yn yr awyr agored yr hydref yma ac ymuno â fi, yn ogystal â miloedd o bobl eraill, i brofi'r llawenydd y gall byd natur ei gynnig. Mae cefnogi plant, teuluoedd ac unigolion i godi allan yn achos sydd mor agos at fy nghalon i, yn ogystal â bod yn gyfle anhygoel i godi arian at elusen sy’n newid bywyd gwyllt. Cofrestrwch heddiw i gymryd rhan yn y Daith Gerdded Wyllt Fawr!”

Dywedodd Rob Stoneman, cyfarwyddwr adfer tirweddau gyda’r Ymddiriedolaethau Natur:

“Mae codwyr arian fel hyn yn gonglfaen ar gyfer adferiad byd natur ar raddfa fawr ledled y DU. Drwy fynd am dro ar droed neu ar olwynion rownd y bloc, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth ddod â byd natur yn ôl. Rydyn ni eisiau plannu coedwigoedd lle roedden nhw’n bodoli ar un adeg, ailgyflwyno anifeiliaid fel afancod yn ôl i gefn gwlad, ac ailwylltio ein moroedd ni. Ewch am dro ar yr ochr wyllt a helpwch ni i adfywio bywyd gwyllt y DU yr hydref yma!”

 

Darllenwch ymhellach am gynlluniau rhai pobl i godi arian yr hydref yma isod – o Sophie 7 oed yng Nghaint i Grace 18 oed yng Nghymru.

  • Sophie Pilcher, 7, Caint
    • Mae Sophie yn 7 oed ac yn dod o Sittingbourne yng Nghaint. Am y ddwy flynedd ddiwethaf mae hi wedi mwynhau cymryd rhan yn Nhaith Gerdded y Draenogod, fersiwn i blant o’r Daith Gerdded Wyllt Fawr. Mae’r digwyddiad codi arian elusennol yn rhoi rheswm gwych i Sophie a’i theulu godi allan, mwynhau cefn gwlad ac ymweld ag ambell siop gacennau hyd yn oed!
    • Y llynedd (2023) fe gofnododd Sophie fwy na 30km yn cerdded i warchodfa natur Cromer’s Wood gerllaw ac archwilio’r llu o lwybrau a thraciau yng nghefn gwlad yr ardal ger ei chartref. Yn ffotograffydd ac yn awdur brwd, manteisiodd Sophie ar y cyfle i dynnu lluniau ar hyd y ffordd a manylu ar ei hanturiaethau yn ei llyfr nodiadau wrth stopio mewn siopau cacennau!
    • Noddodd ei ffrindiau a'i theulu ei hymdrechion ac roedd wrth ei bodd yn derbyn bathodyn pin hardd a ddangosodd yn falch i'r ysgol yn y gwasanaeth boreol.
    • Dywedodd Sophie: “Rydw i wrth fy modd gyda’r Daith Gerdded Wyllt Fawr; mae'n hwyl ac rydyn ni'n helpu byd natur.”
  • Freya, 21, Ucheldiroedd yr Alban
    • Mae Freya yn 21 oed ac yn byw yng ngorllewin Cymru ond yn teithio i fyny i Ucheldir yr Alban ar gyfer ei her fel rhan o’r Daith Gerdded Wyllt Fawr.
    • Bydd ei ffrind, Tez, a’u ceffylau – Dolly a Mocca – yn ymuno â hi i farchogaeth / cerdded 30km y dydd ar daith 3 diwrnod ar hyd arfordir dwyreiniol yr Alban i’r gorllewin.
    • Yn gobeithio cael gyrfa fel cyfreithiwr amgylcheddol, mae gan Freya ddiddordeb arbennig yn y mecanweithiau cyfreithiol a allai helpu i gyflawni 30x30.
    • Dywedodd Freya “Wrth dyfu i fyny yn y de ddwyrain roeddwn i wedi arfer gyda golygfeydd gwag o ofod gwyrdd, ond i fyny yn yr Alban mae’r tirweddau gymaint yn fwy byw! Fe fyddwn i wrth fy modd yn taro i mewn i gath wyllt ar fy antur, ond byddaf yn fwy na hapus os caf gip ar ddyfrgi yn lle cath fawr!”
  • Grace Gavigan, 18, De Cymru
    • Mae Grace Gavigan, 18 oed o Dde Cymru, wedi cymryd rhan yn her codi arian flynyddol ‘Taith Gerdded Wyllt Fawr’ yr Ymddiriedolaethau Natur am y 2 flynedd ddiwethaf, gan gerdded mwy na 100km, codi mwy na £500 a chynnal nifer o ymgyrchoedd casglu sbwriel ar y ffordd!
    • Mae’r fyfyrwraig ysbrydoledig yma o Brifysgol Caerdydd a Miss Earth Wales ar hyn o bryd yn angerddol am ein planed ni a diogelu ein rhywogaethau mwyaf gwerthfawr, a dyma pam ei bod wedi ymroi i fod yn un o #CodwyrArianGWYLLT #WILDFundraisers Arloesol Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
    • Ar gyfer 2024 bydd Grace yn mynd yn fyd-eang gyda her y Daith Gerdded Wyllt Fawr drwy ffeirio tir cefn gwlad de Cymru am arfordir y Philippines wrth iddi fynd allan i gystadlu yn Miss Earth 2024.
    • Dywedodd Grace, “Rydw i wastad wedi bod yn angerddol am warchod ein planed ni a’i bywyd gwyllt anhygoel. Mae cymryd rhan yn y Daith Gerdded Wyllt Fawr wedi bod yn ffordd werth chweil i roi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd, ac rydw i’n falch o fod wedi codi arian i’r Ymddiriedolaethau Natur wrth wneud rhywbeth rydw i’n ei garu. Wrth i mi baratoi i gystadlu yn Miss Earth 2024, rydw i’n gyffrous am wynebu’r her yma yn fyd-eang, gan ffeirio cefn gwlad hardd Cymru am arfordiroedd godidog Ynysoedd y Philippines. Gyda’n gilydd, fe allwn ni i gyd wneud gwahaniaeth, un cam ar y tro.”