Fel partneriaeth, buom yn llwyddiannus yn ein cais i Gynllun Meithrin Gallu Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi bod yn brysur yn gweithio ar weledigaeth ledled Cymru ar gyfer mawndiroedd. Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi ymrwymo i adfer pob mawndir yng Nghymru ac rydym yn ymuno â'r alwad hon am gyflawni'r uchelgais tymor hir o adfer 35,000ha o fawndiroedd. Drwy arolygon safle, trafodaethau â pherchnogion tir a hyfforddiant staff mewn adfer mawndiroedd, rydym yn dechrau creu portffolio o gyfleoedd ledled Cymru. Bydd yr wybodaeth rydym wedi'i chasglu yn ystod y 5 mis diwethaf yn darparu sylfaen ar gyfer ceisiadau i gyllidwyr i helpu gyda gwaith ar lawr gwlad i adfer a gwella'r cynefinoedd anhygoel hyn.
Prosiect Adfer Mawndiroedd
Yng Nghymru, mae mawndiroedd yn ymestyn dros 4% o'n tirwedd - mae gennym yr ehangder mwyaf o orgors led-naturiol yn ne Prydain. Maent hefyd yn wych am storio Carbon (credir bod mawndiroedd ledled y DU gyfan yn storio 3.2 biliwn tunnell o garbon!). Ond, os yw’r mawndiroedd yn cael eu diraddio, eu herydu a'u sychu, byddant yn rhyddhau'r carbon hwnnw yn ôl i'r atmosffer. Mae rhai adroddiadau’n awgrymu y gall colli dim ond 5% o’r cynefin hwn ryddhau digon o garbon i’r atmosffer sy’n cyfateb i gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol y DU! Felly mae'r cynefinoedd hyn yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd eu hatal rhag cael eu colli yn ogystal â gwella ac adfer y rhai sydd mewn cyflwr gwael yn cynyddu faint o garbon maent yn ei amsugno a'i storio. Maent hefyd yn gynefin gwych ar gyfer amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid - gellir dod o hyd i fwsogl cors Sffagnwm, Plu’r Gweinydd Unben, Gwlithlys, y Rugiar Goch a’r Rugiar Ddu a’r Boda Tinwyn ar fawndiroedd, yn ogystal â llawer o rywogaethau o weision y neidr a mursennod. Hefyd gall cors sefydlog ac iach ddal ddŵr, gan ganiatáu iddo ddiferu allan yn araf, a all helpu gydag atal digwyddiadau o lifogydd i lawr yr afon. Mae adfer mawndiroedd yn esiampl wych o sut gallwn hwyluso adferiad natur a darparu atebion seiliedig ar natur ar yr un pryd.
Yn Ngwent, rydym wedi bod yn edrych ar y mawndiroedd yn Nhorfaen a Blaenau Gwent – a thystiolaeth o hynny yw sawl diwrnod o sanau soeglyd!
Cors Waunafon, Blaenavon