Iechyd a Lles

We're looking for funders for our Wild Health Project. Please email Ian and Rose if it sounds like you may be able to help.


NLCF logo

Ar hyn o bryd mae Iechyd Gwyllt yn cael ei ariannu gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan fis Rhagfyr 2025. Roedd yn cael ei ariannu'n flaenorol tan fis Mawrth 2022 drwy'r Gronfa Gofal Integredig drwy Lywodraeth Cymru.

Cafodd Iechyd Gwyllt ei ddatblygu a’i dreialu yn ystod 2017 ledled Gwent, gyda chefnogaeth cronfa’r Co-Operative, ac aeth o nerth i nerth. Mae'r prosiect presennol yn parhau i adeiladu ar y cynllun peilot, gan gynnig cyfleoedd hamdden, cymdeithasol a seiliedig ar waith yn yr awyr agored i bobl a allai elwa'n gorfforol ac yn emosiynol o weithgareddau sy'n seiliedig ar natur.

Mae cyllid diweddar gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn golygu, yn ychwanegol at y prosiect yn gweithredu am dair blynedd arall – gan gynnig mynediad at fyd natur i filoedd yn rhagor o bobl ledled Gwent – bod Swyddog Iechyd Gwyllt newydd, sef Rose O'Hagan, wedi ymuno â’r Swyddog Iechyd Gwyllt, Ian Thomas.

Integrated Wellbeing Network film about our Wild Health project and featuring our Gwent Wildlife Trust Wild Health officer Ian Thomas and Caerphilly Wellbeing Friends

Taith gerdded natur Iechyd Gwyllt

 

Amdanom ni

Mae Iechyd Gwyllt yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Gwent i ddarparu mynediad cynhwysol i'r prosiect. Mae galw a dyhead gwirioneddol am ddarpariaeth awyr agored gan grwpiau ac unigolion nad ydynt hyd yma wedi profi cyswllt a chefnogaeth hirdymor gan ddarparwyr awyr agored. Mae Iechyd Gwyllt wedi bod yn gweithio gyda grwpiau iechyd meddwl a chyflawni lleol fel; Adferiad a Platfform, Mind Sir Fynwy, Goldtops, Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar, Girls Aloud, Pobl yn Gyntaf Casnewydd, Pobl yn Gyntaf Blaenau Gwent / RhCT, Coleg Gwent, Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, Aderyn, Bridges Trefynwy a grŵp atgyfeirio meddygon teulu.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn ymgysylltu’n rhagweithiol ag anghenion iechyd a lles cymunedau lleol drwy gynnal dyddiau gwaith rheolaidd a gweithgareddau hamdden mewn gwarchodfeydd natur, mewn gofod gwyrdd lleol ac yn ein llefydd gwyllt. Mae'r rhain wedi'u hanelu at, ac yn amlygu, gwelliannau mewn iechyd a lles sy'n deillio o ymgysylltu â byd natur. Yn ogystal â’r buddion amgylcheddol a therapiwtig, mae’r prosiect hefyd yn cefnogi problemau eraill y mae pobl yn eu hwynebu, fel hyder, hunan-barch, ynysu cymdeithasol a chyflogadwyedd.

Mae'r pethau rydw i wedi'u dysgu gydag Ian a'r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw yn y sesiynau wedi fy nhawelu i. Dydw i ddim bellach yn cerdded drwy ardal ym myd natur a dim ond yn styc yn fy meddwl. Nawr rydw i'n stopio i edrych ar y byd natur o fy nghwmpas, y blodau gwyllt, y pryfed, y coed a phob agwedd o'u cwmpas nhw.
Connor
cyfranogwr yn y Prosiect Iechyd Gwyllt

Iechyd Gwyllt – Ein Heffaith

Wild Health litter pick

National Lottery Heritage Fund

Iechyd Gwyllt

Litter Picking Wild Health

Mae Iechyd Gwyllt yn cynyddu lefelau’r cyfranogiad cymunedol mewn hamdden a chadwraeth natur

Wild Health project officer Ian Thomas (in the centre/facing) leading a nature walk

Pauline Carter

Mae pobl gyda phroblemau iechyd meddwl a chorfforol yn mynychu sesiynau i wella eu lles

Otter holt - Andy Rouse/2020VISION

Andy Rouse/2020VISION

Rydym yn gweithio gyda chymunedau i'w helpu i ddeall a gwerthfawrogi bywyd gwyllt

Wild Health participants on a nature walk

Pauline Carter

Mae Iechyd Gwyllt yn cynyddu cydweithio a gwaith partneriaeth gyda sefydliadau ledled Gwent

Cymryd rhan

I gael rhagor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan fel unigolyn neu gyda’ch grŵp cymunedol, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen isod neu drwy anfon e-bost at ithomas@gwentwildlife.org neu rohagan@gwentwildlife.org

CAPTCHA
This question is for testing whether or not you are a human visitor and to prevent automated spam submissions.