Rydw i'n meddwl mai fy nghyflwyniad cyntaf i i gylch bywyd oedd y ffilm Disney, The Lion King. Mae anifeiliaid yn cael eu geni, maen nhw'n tyfu, maen nhw'n magu ac maen nhw'n marw. Ond os ydi hyn yn wir, pam nad ydyn ni’n gweld mwy o anifeiliaid marw yn gorwedd hyd y lle? Mae hyn oherwydd bod gan fyd natur, yn union fel ni, ei grŵp diwyd ei hun o ymgymerwyr a chasglwyr sbwriel – y sborionwyr a’r malurysorion. Anifeiliaid ydi'r rhain sy'n bwydo ar ddeunydd marw a deunydd sy'n pydru. Maen nhw’n chwarae rhan bwysig, gan ailgylchu maetholion yn ôl i'r ecosystem.
Mae chwilod claddu'r genws Nicrophorus yn griw arbennig o garismatig o ailgylchwyr. Mae chwe rhywogaeth Nicrophorus yn byw yn y DU, ond rydw i wedi treulio saith mlynedd yn ymchwilio i un chwilen gladdu yn benodol – Nicrophorus vespilloides. Pan rydw i’n cynnal sesiwn hyfforddi ar chwilod claddu, rydw i’n dechrau drwy ofyn pwy yn yr ystafell sydd wedi gweld un erioed. Yr ateb yn aml yw neb, sy’n gallu achosi mymryn o syndod efallai o ystyried bod yr oedolion yn oren a du llachar, yn gyffredin yng nghoetiroedd y DU, ac i’w gweld rhwng misoedd Ebrill a Hydref. Ond mae eu ffordd o fyw yn golygu eu bod nhw’n anodd eu gweld. Maen nhw'n treulio llawer o'u bywydau o dan y ddaear. Pan maen nhw’n dod i'r golwg i ddod o hyd i gymar neu fyrbryd, maen nhw'n fwy tebygol o wneud hynny gyda'r nos, yn y gwyll.