Mae'r Ymddiriedolaethau, sydd â thros 100,000 o aelodau gyda'i gilydd, yn Sir Faesyfed, Maldwyn, Swydd Henffordd, Gwent, Swydd Amwythig, Swydd Warwick, Swydd Gaerwrangon, Swydd Gaerloyw, a Birmingham and the Black Country, gyda chefnogaeth Cymdeithas Frenhinol yr Ymddiriedolaethau Natur.
Gyda'i gilydd, mae’r Ymddiriedolaethau'n cynnwys y partner cyflawni NGO mwyaf ar gyfer gwella'r amgylchedd mewn tirwedd gysylltiedig sy'n cwmpasu dros 10% o Gymru a Lloegr.
Sefydlwyd y bartneriaeth er mwyn:
- Cynyddu ein heffeithiolrwydd wrth greu a chyflawni gwelliannau ar raddfa'r dirwedd sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth.
- Gwella ein gallu i godi cyllid gwyrdd i wneud newid yn bosibl, gan ganolbwyntio ar adeiladu llif o gynlluniau cyllidadwy sy'n cyflawni dros natur gan hefyd ddarparu buddion mewn meysydd fel dal carbon, ansawdd dŵr ac atal llifogydd.
- Cryfhau ein llais, fel y gallwn ymgysylltu'n fwy effeithiol â'r cyhoedd a thrwy hynny sicrhau mwy o effaith ar fyd natur ar draws ffiniau cenedlaethol a sirol.
Mae'r bartneriaeth bellach yn ymgysylltu â chyllidwyr a rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â natur yn ein rhanbarth, ac rydym yn meithrin ein gallu i gyflawni.
Dywedodd Ed Green, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Swydd Warwick: “Er mwyn cyflawni dros natur ar y raddfa sydd ei hangen i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, mae angen i ni weithredu ar raddfa fwy a denu mwy o gyllid. Mae'r bartneriaeth hon wedi'i chynllunio i wneud yn union hynny, felly ar draws ein rhanbarth gallwn gynyddu ein heffaith yn sylweddol”.
Dywedodd Adam Taylor, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Gwent: “Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn i'n rhanbarth. Drwy gryfhau'r cysylltiadau rhwng Ymddiriedolaethau Cymru a Lloegr sy'n gwasanaethu tirweddau hynod gysylltiedig, gallwn gyflymu'r broses o adfer natur drwy roi mwy o brosiectau mawr ar waith”.