Ein gweledigaeth yw pobl yn agos at natur mewn tirwedd sy'n llawn bywyd gwyllt.
Pwy ydym ni a beth ni'n neud
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn elusen sy’n ymroddedig i feithrin ac adfer ein bywyd gwyllt, sy’n rhan o rwydwaith o Ymddiriedolaethau Natur ar draws y DU. Ers bron i 60 mlynedd, ni yw’r brif elusen gadwraeth yng Ngwent, yn gwarchod bywyd gwyllt a’n hamgylchedd naturiol, yn gweithio i addysgu a grymuso pobl i ddeall a gofalu am y byd naturiol ble bynnag y maent yn byw, a dylanwadu ar lywodraethau ac eraill i wneud ein cornel o Gymru yn lle gwell, yn gyfoethocach o ran bywyd gwyllt ac yn fwy pleserus i bawb.
Mae Gwent yn cwmpasu: Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen a rhannau dwyreiniol Caerffili.
Rydym yn berchen ar, ac yn rheoli, dros 33 o warchodfeydd natur sy’n gorchuddio 449Ha, pob un yn agored i’r cyhoedd, ac yn cefnogi tirfeddianwyr a chymunedau eraill i reoli tir ar gyfer bywyd gwyllt. Mae gennym tua 7,500 o aelodau, 300 o wirfoddolwyr ac mae gennym grwpiau lleol sy'n cynnal digwyddiadau ac yn ymgysylltu ag aelodau lleol.
Ein cenhadaeth yw atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth tra'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sy'n bygwth pobl a bywyd gwyllt Gwent.
Yr Her
Ein cenhadaeth yw atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth tra'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sy'n bygwth pobl a bywyd gwyllt Gwent. Byddwn yn cefnogi bywyd gwyllt ac yn addo cynnal ein brwdfrydedd a’n hymdrech er lles hirdymor byd natur. Rydym yn gyrru adferiad byd natur sy’n cael ei bweru gan bobl, sy’n cael ei lywio gan wyddoniaeth ac sy’n annog amrywiaeth a chyfranogiad i bawb. Cawn ein cynnal gan ein gweledigaeth o bobl sy'n agos at natur mewn tirwedd sy'n gyfoethog mewn bywyd gwyllt.
Mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi dangos y golled ddinistriol o fywyd gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ledled y DU, mae niferoedd cyfartalog bywyd gwyllt wedi gostwng 13% ers 1970. Mae dros 600 o rywogaethau dan fygythiad o ddifodiant yng Nghymru. Nid yw Eosiaid bellach yn nythu yng Ngwent ac mae sŵn y gog yn mynd yn brinnach ac yn brinnach.
Mae bywyd gwyllt a lleoedd gwyllt yn dod yn bwysicach i bobl nag erioed. Cynyddodd pandemig Covid-19 nifer yr ymwelwyr â’n gwarchodfeydd ac mae llawer wedi dweud wrthym sut mae ymweld â’r hafanau naturiol hyn wedi bod o fudd iddynt yn bersonol.
Cynyddodd nifer yr ymwelwyr â Chors Magwyr ym mis Mehefin a mis Gorffennaf gyda 53% rhwng 2019 a 2020.
Mae cymaint i’w wneud, ac rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan, dan arweiniad ein gwerthoedd craidd o uniondeb, cynhwysiant ac ymroddiad. Lle bynnag y bo’n bosibl byddwn yn wynebu’r materion yn uniongyrchol ac yn mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol megis colli cynefinoedd o ddatblygiad anghydnaws, ffermio gor-ddwys a newid yn yr hinsawdd a achosir gan garbon. Ond rydym yn elusen leol a'n cryfder yw gweithredu'n lleol. Byddwn yn parhau i weithio gydag eraill i greu rhagor o fannau, mwy o faint sydd wedi’u cysylltu’n well ar gyfer byd natur. Byddwn yn helpu i rymuso pobl ledled Gwent i bledio achos byd natur ac atebion naturiol yn eu cymunedau. Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fywyd gwyllt a gwella hygyrchedd i bawb.
Ni fydd unrhyw un yn amddiffyn yr hyn nad ydynt yn poeni amdano ac ni fydd unrhyw un yn poeni am yr hyn nad ydynt erioed wedi'i brofi.noddwr yr Ymddiriedolaethau Natur